Countryside Wales UK
Back      Home Page | Tourism Wales UK Site Map
A-Z Listings
Find Accommodation




Featured Article
Yr Côd Cefn Gwlad lluniau gan Creature Comforts

"Parchwch, Gwarchodwch, Mwynhewch."

Mae'r dewis yn eang - o barciau gwledig, traethau, coetiroedd, afonydd a fforestydd i filoedd ar filltiroedd o lwybrau tramwy a llwybrau eraill. Fe allwch chi eu mwynhau nhw drwy gerdded, beicio neu drwy fynd ar gefn ceffyl. Fe allwch chi hefyd gerdded ar draws rhai rhannau o gefn gwlad sydd wedi'u dynodi'n dir agored, e.e. mynydd-dir, rhostir, gweundir, twyndir a thir comin.

1.

2.

3.

4.

5.

  Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a   dilynwch unrhyw arwyddion
  Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael   nhw
  Gofalwch eich bod chi'n gwarchod planhigion ac   anifeiliaid, ac ewch â'ch sbwriel gartref
  Cadwch eich ci dan reolaeth dynn

  Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

"Os dilynwch chi'r Cod Cefn Gwlad lle bynnag y byddwch chi'n mynd, fe allwch chi fwynhau i'r eithaf. Fe fyddwch chi hefyd yn helpu i warchod cefn gwlad nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

1. Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion.
Back to Top
Hyd yn oed pan rydych chi'n mynd am dro yn eich ardal leol, mae'n well casglu'r wybodaeth ddiweddara' am ble a phryd rydych chi'n cael mynd. (Mae'n bosib y bydd eich hawliau mynediad i dir agored yn cael eu cyfyngu ar adegau arbennig, e.e. pan fydd gwaith yn cael ei wneud, am resymau diogelwch, neu yn ystod tymhorau bridio.) Dilynwch gyngor ac arwyddion lleol, a byddwch yn barod am yr annisgwyl.

* Cyfeiriwch at fap neu lyfr tywys diweddar, neu ewch i Wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru: www.ccw.gov.uk. Fe allwch chi gael gwybodaeth hefyd o ganolfannau gwybodaeth lleol.

* Chi sy'n gyfrifol am eich diogelwch eich hunan, ac am ddiogelwch y bobl eraill sydd yn eich gofal. Felly, byddwch yn barod am newid yn y tywydd neu am bethau eraill a allai ddigwydd. Ar www.ccw.gov.uk, fe gewch chi gysylltiadau â mudiadau sy'n cynnig cyngor penodol ynghylch cyfarpar a diogelwch. Neu cysylltwch â chanolfannau gwybodaeth i ymwelwyr a llyfrgelloedd i gael rhestr o grwpiau gweithgareddau awyr agored.

* Cyn mentro allan, gwiriwch ragolygon y tywydd. Peidiwch â bod ofn troi'n ôl pe bai'r tywydd yn troi.

* Rhan o apêl cefn gwlad yw'r cyfle i ddianc rhag y byd a'i broblemau. Mae'n bosib fyddwch chi ddim yn gweld unrhyw un arall am oriau. Cofiwch hefyd fod yna lefydd sydd heb signal clir i ffôn symudol. Felly, gadewch i rywun arall wybod ble rydych chi'n mynd, a phryd i'ch disgwyl chi'n ôl.

* Gofalwch eich bod chi'n gwybod ystyr arwyddion a symbolau. Maen nhw yno i'ch helpu chi i ffeindio'ch ffordd.

Lluniau © Aardman Animations Limited

2. Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw.
Back to Top
Dangoswch barch at y bobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad. Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn gallu effeithio ar fywoliaeth pobl, ar ein treftadaeth ac ar ddiogelwch a lles anifeiliaid a ni'n hunain.

* Mewn caeau lle mae cnydau'n tyfu, dilynwch y llwybrau lle bynnag y bo modd.

* Mae'n bosib y bydd ffermwr yn gadael gât neu glwyd ar gau er mwyn cadw anifeiliaid i mewn. Fe allai hefyd ei gadael ar agor fel bod anifeiliaid yn gallu mynd at fwyd neu ddwr. Felly, gadewch y clwydi a'r gatiau fel rydych chi'n eu ffeindio, neu dilynwch gyfarwyddiadau neu arwyddion. (Os ydych chi'n cerdded mewn grwp, gofalwch fod y cerddwr olaf yn gwybod sut i adael y clwydi.)

* Defnyddiwch glwydi a chamfeydd lle bynnag mae hynny'n bosib. Mae dringo dros waliau, gwrychoedd a ffensys yn gallu'u difrodi, gan adael i anifeiliaid fferm ddianc.

* Gadewch beiriannau ac anifeiliaid fod. Peidiwch ag ymyrryd ag anifeiliaid hyd yn oed os ydych chi'n meddwl eu bod nhw mewn trafferthion neu'n dioddef. Yn lle ymyrryd, ceisiwch roi gwybod i'r ffermwr.

* Mae ein treftadaeth yn perthyn i ni i gyd. Gofalwch dydych chi ddim yn gwneud difrod i adfeilion neu safleoedd hanesyddol.

* Os ydych chi'n meddwl bod arwydd yn anghyfreithlon neu'n gamarweiniol (e.e. arwydd 'Preifat - Dim Mynediad' ar lwybr cyhoeddus), cysylltwch â'r awdurdod lleol.

Lluniau © Aardman Animations Limited

3. Gofalwch eich bod chi'n gwarchod planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â'ch sbwriel gartref.
Back to Top
Rydyn ni'n gyfrifol am ddiogelu cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, gofalwch dydych chi ddim yn niweidio anifeiliaid, adar, planhigion neu goed.

* Mae gadael sbwriel neu sbarion bwyd ar eich ôl yn gwneud mwy nag amharu ar harddwch cefn gwlad. Mae'ch sbwriel yn gallu peryglu bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, a lledaenu clefydau. Felly, ewch â'ch sbwriel gartref. (Mae gollwng a thaflu sbwriel yn drosedd.)

* Fe ddylech chi werthfawrogi harddwch yr amgylchedd naturiol. Ond, gadewch i gerrig, planhigion a choed fod. Dyma gartrefi a bwyd adar, anifeiliaid a phryfed, a dyma'r pethau sy'n gwneud mynd i gefn gwlad yn bleser i ni i gyd.

* Mae'n anodd rhagweld sut bydd anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid fferm yn
ymddwyn os ydych chi'n mynd yn rhy agos atyn nhw, yn enwedig os oes anifeiliaid ifanc gyda nhw. Rhowch ddigon o le iddyn nhw.

* Mae tân yn gallu niweidio bywyd gwyllt a chynefinoedd yn yr un ffordd ag y mae'n niweidio pobl ac eiddo. Felly, gofalwch dydych chi ddim yn gollwng matsien neu sigarét heb eu diffodd yn iawn. (Ond cofiwch: mae tân yn cael ei ddefnyddio i reoli llystyfiant gweunydd a rhosydd rhwng mis Hydref a dechrau mis Ebrill. Felly, cyn ffonio 999, gofalwch nad oes yna rhywun yno'n gofalu am y tân.)

Lluniau © Aardman Animations Limited

4. Caewch eich ci dan reolaeth dynn.
Back to Top
Mae cefn gwlad yn lle ardderchog i fynd â'ch ci am dro. Ond, dyletswydd pob un sy'n berchen ar gi yw gofalu dydi'r ci ddim yn peryglu neu'n poenydio anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt neu bobl eraill.

* Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi reoli'ch ci, a'i rwystro rhag dychryn neu darfu ar anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn byr pan fyddwch chi ar dir agored a thir comin. Rhaid gwneud hynny hefyd gydol y flwyddyn pan fyddwch chi'n agos at anifeiliaid fferm.

* Cyn belled â'ch bod chi'n cadw'ch ci dan reolaeth dynn, does dim rhaid i chi ei roi ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus. Ond, fel rheol gyffredinol, mae'n well ei gadw ar dennyn os dydych chi ddim yn gallu dibynnu arno i fod yn ufudd. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr yr hawl i ddifa cwn sy'n anafu neu'n poeni'u hanifeiliaid.

* Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich ôl, mae'n fwy diogel i chi adael eich ci oddi ar ei dennyn. Peidiwch â pheryglu'ch hun trwy geisio amddiffyn y ci.

* Byddwch yn arbennig o ofalus i rwystro'ch ci rhag dychryn defaid ac wyn. Peidiwch â gadael iddo grwydro i fannau lle y gallai darfu ar adar sy'n nythu ar y ddaear neu fywyd gwyllt arall. Heb gael eu hamddiffyn gan eu rhieni, mae wyau ac anifeiliaid ifanc yn marw'n fuan.

* Mae pawb yn gwybod mor annymunol yw baw ci. Mae hefyd yn gallu lledaenu heintiau. Felly, gofalwch eich bod chi'n glanhau ar ôl eich ci bob tro, a'ch bod chi'n cael gwared â'r baw mewn ffordd gyfrifol. Gofalwch hefyd fod eich ci'n cael triniaeth reolaidd ar gyfer llyngyr.

* Ar rai adegau, fydd cwn ddim yn cael mynd i rai rhannau o dir agored, neu efallai y bydd yn rhaid cadw'r ci ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion. Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y rheolau yma ar www.ccw.gov.uk, neu drwy ffonio Llinell Ymholiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar 0845 130 6229.

Lluniau © Aardman Animations Limited

5. Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Back to Top
Drwy ystyried teimladau pobl eraill, a pharchu'r bobl yna, fe fyddwch chi'n gwneud cefn gwlad yn lle gwell i bawb - yn eu cartrefi, wrth weithio ac wrth wneud gweithgareddau hamdden.

* Mae traffig trwm ar heolydd bach y wlad yn gallu bod yn annymunol ac yn beryglus. Lle bynnag mae hynny'n bosib, gadewch eich car gartre'. Meddyliwch am ffyrdd o rannu ceir, a defnyddiwch ffyrdd eraill o deithio, e.e. cludiant cyhoeddus neu feiciau. (I gael gwybod mwy am gludiant cyhoeddus, ffoniwch Traveline ar 0870 608 2608.)

* Parchwch anghenion pobl leol. Peidiwch â pharcio mewn mannau anaddas, e.e. o flaen tai neu ar draws mynedfeydd.

* Pan rydych chi ar eich beic neu'n gyrru, arafwch i geffylau, cerddwyr ac anifeiliaid fferm. Wrth eu pasio, rhowch ddigon o le iddyn nhw. (Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a'r rheini sydd ar gefn ceffylau ar lwybrau ceffylau.)

* Cadwch allan o'r ffordd pan mae anifeiliaid fferm yn cael eu casglu neu'u symud. Dilynwch gyfarwyddiadau'r ffermwr.

* Helpwch economi cefn gwlad i ffynnu. Prynwch fwyd a phethau eraill o siopau lleol.

Lluniau © Aardman Animations Limited

Associated Features

National Nature Reserves in Wales
National Trails
A Walk in the Park
Countryside Escapades
Welsh Wildlife Reserves; RSPB
 

Terms & Conditions | About Us | Contact Us

© Wales.info 2013.
Business Cluster Marketing Systems Limited.
Registered in Wales and England No. 6185399. VAT reg. no. (TBA)